We help you give and we strengthen the causes you give to

Generosity is our cause

Submenu title

Back

Cronfa Goffa Elisabeth James

Closing date: 31 May 2024

73

%

Raised out of £2000 target

£1464.4

Including Gift Aid: £ 1564.42

Raised offline: £ 950

Give

Story

Elisabeth James oedd ein Llywydd Anrhydeddus ers dros 25 mlynedd, gan gamu i’r swydd y bu i’w phriod, Dan Lynn James lenwi cyn hynny. Bu Dan ac Elisabeth yn arloeswyr ym maes datblygu a chreu gwerslyfrau i blant ac ieuenctid Ysgolion Sul Cymru, gan ysgrifennu a golygu cyfresi di-ri o lyfrau a gafodd eu defnyddio gan genedlaethau o blant. Bu Elisabeth hithau yn awdur, chyfieithydd a golygydd ffyddlon i Cyhoeddiadau’r Gair am flynyddoedd wedi hynny, gan gynnwys y gyfres werslyfrau Gyda’n Gilydd a nifer o Feiblau lliw a llyfrau darllen i blant. Roedd ei brwdfrydedd a sêl dros waith y deyrnas bob amser yn heintus, a diolchwn am ei chyfraniad i fywyd ysbrydol ein cenedl.

Ei dymuniad oedd bod unrhyw roddion er cof amdani yn mynd at waith y Cyngor Ysgolion Sul, a diolchwn am y cyfle i gydweithio gyda’r teulu i wireddu hynny. Byddwn yn rhannu dolen yn fuan lle gall bawb sy’n dymuno gyfrannu ar lein yn ogystal. Bydd cronfa yn cael ei sefydlu i wireddu project arbennig er cof am Elisabeth.

Raising funds for

Anonymous 22 February 2024

£20 + £5 Gift Aid
Sion Rhys 25 January 2024

Coffa da amdani, yn arbennig yn ei hannogaeth i ni fel myfyrwyr gyda mentrau fel y Cwrs Alffa pan oeddem ni'n addoli yn Seion Baker Street ddechrau'r dim degau. Rhys Llwyd a Menna Machreth.

£25 + £6.25 Gift Aid
Robert 21 January 2024

Robert a Helen Roberts Morfa Nefyn Er cof am Elisabeth, ffrind annwyl a Christion disglair.

£25 + £6.25 Gift Aid
Andrew 20 January 2024

Andrew a Rosemary Lenny a'r teulu - Gyda diolch am ofal a gwasanaeth, defosiwn a diffuantrwydd, ffydd a ffyddlondeb Elisabeth - un o blant yr Arglwydd.

£25 + £6.25 Gift Aid
Tudur 19 January 2024

£10.31 + £0 Gift Aid
Anonymous 16 January 2024

£20 + £0 Gift Aid