& Training
Sefydlwyd y Cyngor Ysgolion Sul yn 1966, a hynny gan 5 enwad Cristnogol Cymraeg sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys yng Nghymru. Y pum enwad hyn sy'n dal i reoli'r gwaith trwy rwydwaith o bwyllgorau. Fe'i sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith ysgolion Sul ac addysg Gristnogol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Datblygwyd y weledigaeth ymhellach yn 1992 trwy sefydlu Cyhoeddiadau'r Gair, sef cwmni cyhoeddi Cristnogol cydenwadol, sy'n cyhoeddi a hyrwyddo llyfrau Cristnogol Cymraeg. Mae'r Cyngor hefyd yn rhan o gwmni ‘Roots for Churches' sy'n cyhoeddi adnoddau addoli, ac yn sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael fel rhan o'r arlwy ar y wefan www.rootsontheweb.com
Ar hyn o bryd mae 3 panel yn weithredol, sef:
Panel datblygu adnoddau gweinidogaeth
Panel datblygu adnoddau cenhadaeth
Panel hybu, hyfforddi a hyrwyddo